
High Brown Fritillary
SPECIES
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw britheg frown, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy brithegion brown; yr enw Saesneg yw High Brown Fritillary, a'r enw gwyddonol yw Fabriciana adippe neu Argynnis adippe. Mae i'w ganfod o Ewrop i dir mawr Asia ac i Japan. Hed yr oedolyn yng Ngorffennaf ac Awst. Mae'r fenyw'n dodwy eu hwyau ar fathau o fioled, a gaiff eu bwyta yn eu tro gan y siani flewog. Neithdar o blanhigion mwyar duon ac ysgall yw prif fwyd yr oedolyn.
via GBIF
via Wikidata · CC0
via Wikidata sitelinks · CC0
Discovered by embedding cosine similarity (sentence-transformers MiniLM, 384-dim).